Mae’r chwaraewr snwcer o Sir Gâr, Matthew Stevens yn credu y byddai perfformiad da ym Mhencampwriaeth Agored Cymru’r wythnos hon yn helpu i ail-ennill ei le ymysg yr 16 uchaf.
Fe ddisgynnodd Stevens allan o’r 16 uchaf dair blynedd yn ôl, ac ar hyn o bryd mae’r Cymro yn yr 20fed safle.
Mae Pencampwriaeth Agored Cymru yn cychwyn yng Nghasnewydd heddiw gyda Stevens yn cychwyn y gystadleuaeth yn y rownd ragbrofol yn erbyn Barry Pinches.
“Fy nod y tymor hwn i’w i gyrraedd safle’r 16 uchaf unwaith eto,” meddai Stevens.
“Ar hyn o bryd dw i ymhell tu ôl, ond dim ond un wythnos dda mae’n cymryd i bethau ddechrau newid.”
Dywedodd Matthew Stevens ei fod yn anodd iawn iddo fynd ymhell iawn mewn cystadlaethau oherwydd ei fod o y tu allan i safleoedd 16 uchaf y byd.
“Hyd yma rydw i wedi ennill pob un o’r rowndiau rhagbrofol yn ystod y tymor. Ond yn y ddwy gystadleuaeth ddiwethaf rydw i wedi chwarae yn erbyn Ding Junhui a Ronnie O’Sullivan yn y rownd gyntaf,” meddai.
“Mae hynny’n dangos pa mor anodd i’w hi tu allan i’r 16 uchaf a pa mor bwysig yw hi i ddychwelyd i’r safle yna unwaith eto,” ychwanegodd Stevens.
Dywedodd Matthew Stevens bod y gwaith ymarfer wedi bod yn mynd yn dda a’i fod yn awyddus i berfformio’n well yn y gystadleuaeth eleni o’i gymharu â’r blynyddoedd cynt.
Fe fydd tri Chymro arall yn ymuno gyda Stevens yn y gystadleuaeth yng Nghasnewydd, gyda Mark Williams, Ryan Day a Dominic Dale hefyd yn cystadlu.
Trefn gemau’r Cymry
Matthew Stevens v Barry Pinches – Rownd Ragbrofol- 25 Ionawr
Dominic Dale v Stephen Maguire – Rownd Gyntaf- 26 Ionawr
Ryan Day v Tony Drago – Rownd Gyntaf- 26 Ionawr
Mark Williams v Feargal O’Brien – Rownd Gyntaf- 27 Ionawr