Mae Abertawe ar fin arwyddo ymosodwr Blackburn a Sheffield Wednesday, Shefki Kuqi ar gytundeb 18 mis.

Fe fydd chwaraewr rhyngwladol y Ffindir yn arwyddo am ddim oddi wrth TuS Koblenz o ail adran yr Almaen.

Mae Kuqi wedi cytuno termau yn y Stadiwm Liberty y bore yma, ac mae’r gwaith papur wedi ei anfon at Gymdeithas Bêl Droed yr Almaen a’r Gynghrair Pêl Droed am gadarnhad.

“Rwy’n symud i glwb sy’n gwneud yn dda iawn,” meddai cyn ymosodwr Ipswich a Fulham.

“Cefais gêm dda yn y Stadiwm Liberty y tymor diwethaf i Crystal Palace gan sgorio un gôl. Rwy’n gobeithio bydd y maes yn un lwcus i mi.

“Rwy’n ymwybodol bod Abertawe yn hoffi chwarae pêl droed o safon, a does dim gwahaniaeth gen i os ydyn nhw’n chwarae gydag un neu ddau ymosodwr.

“Rydw i’n edrych ymlaen at gael cychwyn. Fe fethais i gyrraedd y gemau ail gyfle ddwywaith gydag Ispwich, ac rwy’n gobeithio y byddai’n fwy lwcus y tro hwn,” ychwanegodd.

‘Cynnig rhywbeth gwahanol’

Dywedodd rheolwr Abertawe, Paulo Sousa ei fod yn credu bydd yr ymosodwr yn helpu’r Elyrch i wella fel tîm.

“Rwy’n siŵr y bydd chwaraewr gyda’r math yma o brofiad yn gallu helpu ni yn y Bencampwriaeth,” meddai Sousa.

“Mae’n ymosodwr da iawn a bydd yn cynnig rhywbeth gwahanol i’r garfan er mwyn i ni gael parhau gyda’r un llwyddiant.”