Mae Joe Ledley wedi dweud ei fod o’n awyddus i arwyddo cytundeb newydd gyda Chaerdydd, ond nad ydi o wedi cael cynnig digon da i aros yn y brifddinas.

Bydd tymor Ledley yn dod i ben ar ôl gêm Caerdydd yn y Bencampwriaeth yn erbyn Dinas Bryste nos yfory, am ei fod yn o’n mynd i gael llawdriniaeth ar ei gluniau.

Mae’n bosib mai dyna fydd y tro olaf i gefnogwyr yr Adar Glas weld y chwaraewr canol cae yn gwisgo crys Caerdydd.

Mae cytundeb presennol y Cymro’n dod i ben ar ddiwedd y tymor ac fe allai ymuno gyda chlwb arall am ddim. Ond mae o wedi dweud ei fod am aros gyda’r clwb.

Dim digon da

“Rydw i am aros gyda Chaerdydd. Ges i fy ngeni yma ac mae fy nheulu yn byw yma hefyd,” meddai Ledley wrth bapur newydd y Western Mail.

“Ond dyw’r cyfan ddim yn fy rheolaeth i, mae’n rhaid i’r clwb cynnig rhywbeth bydd o les i fy a fy ngyrfa. Mae gyrfa mewn pêl droed yn un byr.

“Dyw’r cadeirydd heb wneud cynnig digon da eto. Dyw’r cytundeb ddim cystal â beth rydw i’n teimlo y dylwn i ei gael,” ychwanegodd.

Mae Joe Ledley wedi cael ei feirniadu gan ganran o gefnogwyr Caerdydd am beidio ag ymrwymo ei ddyfodol i’r clwb ynghynt.

“Mae’r cefnogwyr yn rhydd i ddweud beth bynnag maen nhw eisiau. Ond rwy’n credu bod y cefnogwyr yn rhwystredig oherwydd eu bod nhw eisiau i fi aros – rwy’n gwybod sut maen nhw’n teimlo,” meddai Ledley.