Mae Gordon Brown wedi dweud y byddai dilyn cyngor yr wrthblaid a lleihau gwariant cyhoeddus yn syth yn gamgymeriad mawr.
Dywedodd fod arweinwyr yn gytûn ar draws y byd y byddai atal gwariant yn rhy gyflym yn “peryglu” yr adferiad economaidd “bregus”.
Mae disgwyl i ffigurau swyddogol yfory gadarnhau nad ydi Prydain bellach mewn dirwasgiad.
“Y camgymeriad mwyaf y gallen ni a gwledydd eraill ei wneud nawr fyddai tynnu’r arian sydd ei angen ar gyfer creu cynnydd a swyddi yn ôl nawr,” meddai.
Roedd y Prif Weinidog yn ymateb i alwad gan arweinydd y Ceidwadwyr i ddechrau gwneud toriadau er mwyn lleihau’r diffyg ariannol £178b yn y gyllideb.
Rhybuddiodd David Cameron heddiw fod Prydain yn benthyg £6,000 yr eiliad, a’i bod hi’n amser i’r Llywodraeth “wneud y peth iawn”.
Dywedodd nad oedd dod allan o’r dirwasgiad yn golygu fod trafferthion dyled Prydain ar ben.
“Argyfwng dyled Llafur yw’r bygythiad mwyaf i’n hadferiad nawr,” meddai. “Bydd yr adferiad yma yn llwyddo os ddechreuwn ni ar gynllun er mwyn gostwng y ddyled nawr.”
Ond dywedodd Gordon Brown fod polisi economaidd David Cameron yn mynd yn groes i weddill y byd.
Mae Llafur wedi addo haneru diffyg ariannol Prydain o fewn pedair blynedd os ydyn nhw’n parhau mewn grym.