Cafodd dyn ei garcharu am oes heddiw am lofruddio ei gyn gariad.

Bydd Phillip Packer, 50, yn y carchar am o leiaf 18 mlynedd, cyn y bydd hi’n bosib ystyried ei ryddhau ar drwydded.

Fe’u cafwyd yn euog ddydd Gwener ddiwethaf o lofruddio ei gyn gariad Jenna Thomas. Roedd wedi crogi’r wraig 21 oed ym mis Mehefin 2009.

Yr achos

Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod Philip Packer wedi tagu’r wraig ifanc yn fwriadol am ei bod hi’n gwrthod ail ddechrau eu perthynas ac eisiau parhau gyda’i bywyd hebddo.

Dywedodd yr erlyniad ei fod o wedi “cynhyrfu” pan ddechreuodd hi berthynas gyda dyn a oedd yn nes at ei hoed hi.

Wrth ei ddedfrydu, dywedodd Mr Ustus Griffith Williams wrth Phillip Packer fod y rheithgor wedi gwrthod yr honiad ei fod yn dioddef “abnormaledd o’r meddwl”.

Roedd Phillip Packer wedi honni ei fod yn dioddef o iselder pan laddodd Jenna Thomas.


“Rhan ohona’i wedi marw”

Mewn datganiad a ddarllenwyd yn y llys heddiw, dywedodd gefeilles Jenna Thomas, Nicola, fod rhan ohoni wedi marw pan laddwyd ei chwaer.

Dywedodd fod pobol yn dal i’w camgymryd, ac yn ei galw hi wrth enw ei chwaer.

“Dyw pobol ddim yn deall pa mor gryf yw’r cysylltiad rhwng gefeilliaid,” meddai.

“Mae pobol dal yn fy ngalw i wrth ei henw hi, a dwi’n gwybod fod mam a dad yn ei chael hi’n anodd pan rydw i’n cerdded mewn drwy’r drws blaen.

“Am hanner eiliad, dwi’n gwybod eu bod nhw’n ei gweld hi.”

Ychwanegodd ei bod hi “dal yn teimlo na ddylai hi fod yn cael hwyl, am nad yw Jenna yma i chwerthin efo fi.

“Mae saith mis wedi bod ers i’n chwaer i farw, a dwi dal yn teimlo fel bod hanner ohona’i wedi marw’r diwrnod hwnnw.”