Mae merch 15 oed wedi cael £6.5 miliwn o iawndal gan yr Uchel Lys am esgeulustod meddygol adeg ei geni.

Roedd Rhiannon Hayman o Ben y Bont ar Ogwr yn y llys yn Llundain gyda’i theulu er mwyn clywed y setliad.

Dioddefodd Rhiannon Hayman o ddiffyg ocsigen pan gafodd ei geni yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen y Bont ar Ogwr ym mis Tachwedd 1994. Roedd hi wedi dioddef niwed “arwyddocaol” i’w hymennydd.

Dywedodd yr Ustus Owen bod Ymddiriedolaeth Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg wedi cyfaddef eu bod nhw’n gyfrifol a chytuno i dalu’r swm.

“Mae popeth yr ydw i wedi ei ddarllen am Rhiannon wedi gwneud argraff arna’i,” meddai’r barnwr.

“Mae hi’n ferch hynod ac mae’n anodd peidio ag edmygu ei hagwedd cadarnhaol at fywyd – er gwaethaf ei anffawd wrth gael ei geni.”

Dyw hi ddim yn gallu cerdded heb gymorth, siarad na bwydo ei hun ac mae angen gofal 24 awr arni.

Talodd y barnwr deyrnged i’w mam Suthathip gan ddweud ei bod hi wedi “ysgwyddo’r baich mwyaf”, a hefyd i’w thad David, brawd Rhys a chwaer Becky.

Dim ‘bywyd arferol’

Ar ôl y gwrandawiad dywedodd Suthathip Hayman bod “effaith anabledd ein merch wedi torri ein calonnau ni a’n teulu”.

“Gall arian ddim newid beth ddigwyddodd i Rhiannon. Ond rydyn ni’n gobeithio y bydd o’n ariannu ei hanghenion cymhleth am flynyddoedd eto.

“Fydd o ddim yn gwneud yn iawn am y ffaith nad ydi hi’n mynd i allu byw bywyd arferol fel ei brawd a’i chwaer – byw yn annibynnol a dechrau ei theulu ei hun.

“Mae Rhiannon yn ferch ddeallus, hapus a cymdeithasol sydd wrth ei bodd yn chwarae gyda’i brawd a’i chwaer a gwrando ar wahanol fathau o gerddoriaeth.”

Ymddiheurodd yr amddiffyn ar ran y diffynnydd a thalu teyrnged i deulu Rhiannon Hayman.