Roedd Eisteddfod Gadeiriol Chwilog yn “llwyddiant” ac fe fu “cystadlu brwd am 12 awr” yn ôl trefnwyr yr Eisteddfod.

Daeth “llu o gystadleuwyr o bell ac agos” ac roedd y safon yn “uchel iawn” meddai’r Ysgrifennydd, Gwyn Parry Williams.

“Pleser oedd gweld cymaint o gystadlu ymysg yr ieuenctid rhwng 15 a 25 oed.

Gwerthfawrogwyd y gefnogaeth a gafwyd gan yr ysgol leol, Ysgol Tudweiliog a Choleg Meirion Dwyfor,” meddai.

Derbyniodd yr Eisteddfod wyth ymgais ar y testun “Cyfrinach” ar gyfer cystadleuaeth y gadair.

Brian Wyn Ifans o Lanystumdwy, cyn brifathro Ysgol Treferthyr, Criccieth oedd enillydd y gystadleuaeth. Hon oedd ei bumed gadair.

Dywedodd Elen Gwenllian Hughes enillydd y Prif Adroddiad a’r Llefaru dan 25 blwydd oed bod yna “awyrgylch da yn yr Eisteddfod a digon o gystadlu gyda’r nos”.

Er bod y ferch o Gaernarfon yn hen gyfarwydd ag eisteddfodau ar lefel cenedlaethol, wedi ennill Gwobr Goffa Llew yn Eisteddfod yr Urdd ac yn beirniadu cystadlaethau llefaru cynradd mewn eisteddfodau lleol bellach, dywedodd bod cystadlu yn yr eisteddfod leol yn dal i fod yn bwysig iddi.

“Dw i’n hoffi eisteddfodau lleol – yn yr eisteddfodau hynny nes i ddechrau cystadlu ac mae gen i griw bach o ffrindiau bellach.

“‘Dw i’n licio’r sin …Mae ‘na hwyl i’w gael ac mae rhywun yn cael beirniadaeth adeiladol hefyd,” meddai Elen Gwenllian Hughes.

Cerddoriaeth

Blwyddyn Derbyn ac Iau.

(1af)

Lowri W. Jones

Chwilog

 (2il)

Briall Hughes

Pencaenewydd

 (3ydd)

Lois Povey a Deio Edwards, Chwilog

Blwyddyn 1 a 2.

Ifan Rhys,

Llanarmon

Iwan Pugh ac Elan Edwards, Chwilog