Mae David Cameron wedi cadarnhau ei fod yn ystyried y syniad o ailgyflwyno llongau carchar pe bai’n ennill yr etholiad cyffredinol.

Wrth siarad mewn cynhadledd i’r wasg yn Westminster heddiw, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr y byddai cyflwyno’n llongau yn fodd cyflym a rhad o gynyddu nifer y celloedd sydd ar gael yng ngwledydd Prydain.

Dywedodd ei fod o’n ystyried y cynllun fel ffordd o beidio gorfod rhyddhau carcharorion yn gynnar oherwydd diffyg lle mewn carchardai.

Roedd eu rhyddhau nhw’n gynnar yn “tanseilio ffydd yn y system gyfiawnder”, meddai.

Aeth o ddim i fanylion ynglŷn â’r hyn y mae ei blaid yn ystyried, ond dywedodd y byddai eu cynlluniau yn cael eu cyhoeddi dros yr wythnosau nesaf.

Dadlau ymysg ei gilydd?

Ond daw ei gyhoeddiad ar ôl adroddiadau fod ailgyflwyno’r llongau carchar wedi achosi dadlau mawr ymhlith uwch rengoedd y Ceidwadwyr.

Yn ôl adroddiadau, mae aelodau meinciau blaen y Ceidwadwyr yn anhapus fod y syniad wedi cael ei wthio gan dîm cyfathrebu’r blaid, a bod hyn yn tanseilio blynyddoedd o drafod a datblygu polisi gan yr Aelodau Seneddol.

Ond mae llefarydd ar ran y Ceidwadwyr wedi gwadu hyn.

Gwerthwyd llong garchar diwethaf Prydain yn 2005, ar ôl bod yn cadw carcharorion am wyth mlynedd cyn hynny.

Beirniadwyd y defnydd o’r llong gan Brif Weithredwr y Carchardai ar y pryd, oherwydd diffyg cyfleusterau ar gyfer awyr iach ac ymarfer.