Mae papur newydd y Sunday Express wedi cael eu gorfodi i dynnu’n ôl o honiadau yr oedden nhw wedi eu gwneud am Gadeirydd clwb pêl-droed Caerdydd.
Roedd y papur wedi cyhoeddi dyfyniadau honedig gan Peter Ridsdale yn dweud bod rhai eisiau cael gwared arno ef a’r rheolwr, Dave Jones oherwydd eu bod yn Saeson.
Roedd Peter Ridsdale wedi gwadu’r honiadau a gwadu iddo ddweud y fath beth.
“Rydyn ni eisiau ymddiheuriad gan yr Express. Fe wnes i bwysleisio nad oedd hynny’n wir. Roedd fy mam-gu a fy nhad-cu yn Gymry,” meddai Ridsdale ar ôl dod yn ymwybodol o’r dyfyniadau.
Dywedodd y papur newydd eu bod yn derbyn bod y dyfyniadau “gwrth-Seisnig” yn anghywir a’u bod yn hapus i gywiro hyn.