Mae’r Heddlu wedi dod o hyd i’r ddau glaf a oedd wedi dianc o Ysbyty Llanarth Court ddydd Sadwrn.
Roedd Heddlu Gwent wedi cyhoeddi eu bod yn chwilio am Nicholas Richmond, 21, (chwith) a Paul Turner, 31, ac yn apelio am wybodaeth ar ôl i’r ddau ddianc o’r Ysbyty.
Roedd yr heddlu’n rhybuddio’r cyhoedd y gallen nhw fod yn beryglus ond maen nhw bellach wedi eu rhoi yng ngofal y Bwrdd Iechyd Lleol.
Mae Ysbyty Llanarth Court, rhwng y Fenni a Rhaglan, yn ganolfan ddiogel sy’n darparu gwasanaethau iechyd meddwl i gleifion, gan gynnwys rhai sy’n cael eu cadw o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.