Mae capten Caerdydd wedi dweud bod angen i’r clwb arwyddo chwaraewyr newydd er mwyn rhoi hwb i’w gobeithion yn ail hanner y tymor.
Ond dyw Caerdydd ddim yn cael arwyddo unrhyw chwaraewyr newydd tan eu bod nhw wedi talu eu dyled o £2.7m i’r Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi.
“Rwy’n credu bod angen ychwanegu at y garfan fel bod pawb yn cael hwb,” meddai Mark Hudson.
“Fe fyddai hynny’n dod a mwy o gystadleuaeth i’r tîm ac yn gwthio’r chwaraewyr sydd eisoes gyda’r clwb i frwydro am eu llefydd tan ddiwedd y tymor.
“Yn amlwg fe fyddai’n wych cael chwaraewyr newydd, ond mae’n anodd dweud beth fydd yn digwydd mewn pêl droed,” ychwanegodd.
Rhestr
Roedd rheolwr Caerdydd, Dave Jones yn awyddus i ychwanegu at ei garfan, yn enwedig i’r canol cae.
Roedd o wedi rhoi rhestr o’r chwaraewyr roedd yn awyddus i arwyddo i’r cadeirydd, Peter Ridsdale.
Mae Dave Jones eisoes wedi dweud mai ei fwriad oedd prynu dau chwaraewr newydd yn ogystal ag arwyddo dau arall ar gytundebau ar fenthyg tan ddiwedd y tymor.
Ond tra bod y ddyled heb ei dalu, ni fydd yr un chwaraewr newydd yn ymuno â’r Adar Glas.