Ifan Morgan Jones sy’n dweud hwyl fawr wrth y ffliw moch…
Mae o drosodd felly. Yng Nghymru o leiaf. Tynnwch eich masgiau ac anadlwch yr awyr iach unwaith eto. Mae’r pandemig ffliw moch ar ben.
Dyna beth mae penaethiaid meddygol Cymru yn ei ddweud, beth bynnag. A hynny ar yr un diwrnod ag y cafodd miloedd o rieni eu gwahodd i frechu eu plant.
Er eu bod nhw’n dal i annog pawb sy’n cael cynnig brechlyn i’w gymryd (beth arall mae nhw’n mynd i’w wneud gyda nhw?) maen nhw’n derbyn bod ffliw moch “ar drai” yng Nghymru.
Dydi o ddim yn syndod felly bod rhai pobol wedi dechrau gofyn ambell i gwestiwn ynglŷn â’r holl wario ar frechlynau, a’r holl banig, yn y lle cyntaf. Yn y Guardian mae’r hanner-Cymro Simon Jenkins yn ymosod ar wyddonwyr a’u proffwydoliaeth y byddai “65,000 o bobol yn marw”.
Fe wariodd y Llywodraeth £1 biliwn ar frechlynau. Fe allen nhw fod wedi talu bonws i fwy na hanner cant o fancwyr gyda phres fel yna.
Graean
Ond dw i ddim yn mynd i gwyno am hynny. Am ein bod ni, yr union yr un pryd, yn condemnio’r llywodraeth ac awdurdodau lleol am beidio â gwneud digon i ddelio gydag eira mawr y flwyddyn newydd.
Yn yr achos hwnnw fe fethodd y cynghorau â sicrhau bod digon o raean, gan sicrhau fod pawb oedd heb fod yn byw ar briffordd yn styc. Roedden nhw yn eu tro yn beio’r llywodraeth am beidio â’u cynghori nhw i storio mwy na chwe diwrnod o’r stwff.
Mae cymdeithas foduro’r AA yn dadlau eu bod nhw wedi rhybuddio’r cynghorau nad oedd digon o raean. Ond maen nhw’n gwneud hynny bod blwyddyn ac mae ganddyn nhw lot i’w ennill o wneud hynny.
Mewn un achos rydyn ni’n beirniadu’r llywodraeth am wneud gormod i ymdopi gyda phroblem yn wyneb rhybuddion gwyddonwyr, tra ar y llaw arall yn eu beirniadu nhw am beidio â gwneud digon am dywydd eithafol sy’n digwydd bob30 mlynedd.
Mae’r gallu i edrych yn ôl yn beth hyfryd.
Efallai y dylen ni fod wedi cymryd rhybuddion y gwyddonwyr gyda phinsied o halen. Ond byddai’n well gen i fod yn styc yn yr eira heb ddim halen nag ynghanol pandemig gyda dim brechlyn.