Roedd dau Brydeiniwr ymysg 90 o bobol ar awyren a chwalodd a chwympo i’r môr funudau ar ôl gadael Beirut.

Dywedodd gweinidog trafnidiaeth Libanus Ghazi Aridi bod dau Brydeiniwr o dras Libanaidd ymysg y teithwyr, ac roedd y gweddill yn dod o Libanus neu Ethiopia.

Does dim cadarnhad eto ynglŷn â beth achosodd y ddamwain, ond dywedodd yr heddlu mai’r tywydd nid terfysgaeth oedd yr achos tebygol. Roedd hi wedi bod yn bwrw’n drwm, gyda mellt a tharanau yn Beirut.

Gadawodd y Boeing 737-800 Beirut tua 2.30am (12.30am amser Cymru) ar ei ffordd i brifddinas Ethiopia, Addis Ababa.

“Roedd y tywydd yn wael iawn,” meddai Ghazi Aridi. Dywedodd bod yr awyren wedi chwalu tua dwy filltir oddi ar arfordir Libanus.

Mae hofrenyddion a llongau wedi eu gyrru i geisio dod o hyd i’r awyren. Roedd 83 o deithwyr a saith aelod o’r criw ar yr awyren.