Mae llofrudd a ddihangodd o garchar agored Prescoed yn Sir Fynwy dros dair blynedd yn ôl wedi cael ei ddal.

Cafodd Graham Dean, 63 oed, ei arestio gan Heddlu Avon a Gwlad yr Haf ym Mryste heddiw.

Roedd wedi bod ar ffo ers iddo ddianc o Prescoed ym mis Mehefin 2006.

Roedd wedi cael ei ddedfrydu i garcharu am oes am lofruddiaeth gan Lys y Goron Casnewydd ym mis Tachwedd 1981.

Chwilio am leidr

Yn y cyfamser mae Heddlu Gwent yn chwilio am un arall o garcharorion carchar Prescoed na ddychwelodd yno ddoe.

Cafodd Matthew Zammitt Davies, 31 oed, ei ddedfrydu gan Lys y Goron Abertawe ym mis Hydref 2006 am ymosod a dwyn.

Er nad yw’n droseddwr rhyw, caiff ei ystyried fel bygythiad posibl i’r cyhoedd os nad yw dan oruchwyliaeth carchar.

Caiff ei ddisgrifio fel dyn gwyn 5 troedfedd 7 modfedd bychan ei gorff a gwallt brown golau. Y tro diwethaf iddo gael ei weld, roedd yn gwisgo jîns glas, crys chwys du, esgidiau trainers gwyn, sgarff du a menig du.

Mae ganddo gysylltiadau ag ardal Abertawe.

Os bydd rhywun yn ei weld, mae’r heddlu’n gofyn iddyn nhw gadw draw oddi wrtho a’u ffonio nhw ar unwaith ar 01633 838111.

Llun: Graham Dean, y llofrudd a gafodd ei ddal heddiw (Heddlu Gwent/PA Wire)