Mae milwr arall o Brydain wedi cael ei ladd yn Afghanistan heddiw.
Bu farw’r milwr o 3ydd Bataliwn y Rifles o’i anafiadau mewn ffrwydrad yn nhalaith Helmand yn neheudir y wlad. Dywed y Weinyddiaeth Amddiffyn eu bod wedi hysbysu ei deulu.
Bu farw ddiwrnod ar ôl i aelod arall o’r Rifles – y 250fed milwr o Brydain – gael ei ladd mewn ffrwydrad yn yr un ardal.
Cafodd y milwr hwnnw ei enwi heddiw fel Peter Aldridge, 19 oed, o Folkstone yng Nghaint.
Gyda chyfanswm colledion byddin Prydain bellach yn 251, nid yw ond pedwar yn llai nag a gafodd eu lladd yn Rhyfel y Malvinas yn 1982.
Llun: Peter Aldridge, 19 oed, y milwr a gafodd ei ladd yn Afghanistan ddoe. (Hawlfraint y Weinyddiaeth Amddiffyn/y Goron /PA)