Mae “prinder mawr” o ddyfarnwyr Pêl droed benywaidd yng Ngogledd Cymru, yn ôl Ysgrifennydd Cynghrair Alliance Cymru.

“Dim ond tua pedair neu bump o ferched sy’n dyfarnu Pêl droed yng ngogledd Cymru gyfan ar hyn o bryd,” meddai Ron Bridges wrth Golwg360.

Er hyn, fe ddywedodd mai pêl droed merched yw’r gamp chwaraeon sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru.”

“Mae’n rhaid i ni gael mwy o ferched – i ddyfarnu’r nifer cynyddol y timau merched yn un peth,” dywedodd.

Cwrs Dyfarnu Pêl droed

Fe fydd cwrs i ddyfarnwyr pêl droed newydd yn cael ei gynnal yng Ngogledd Cymru, ddechrau fis Chwefror.

Mae cwrs Dyfarnu FA Cymru yn cynnig cyfle i ferched a bechgyn o bob oed ddysgu am reolau’r gêm yn ogystal â sut i ddyfarnu.

Fe fydd y cwrs dyfarnu’n para chwe wythnos ac ar ei ddiwedd, bydd arholiad byr ar reolau’r gêm.

Hefyd, nid oes rhaid i’r sawl sy’n pasio’r cwrs ddyfarnu wedi ei gwblhau. Mae’n bosibl defnyddio’r cymhwyster ar gyfer helpu timau pel droed iau.

Fe ddywedodd Ron Bridges nad diffyg diddordeb sydd wrth wraidd y prinder dyfarnwyr:

“Dyma’r cwrs cyntaf i ddyfarnwyr newydd yn yr ardal ers o leiaf tair blynedd,” meddai cyn ychwanegu nad oes cyfle lleol wedi bod i’r ifanc ddysgu cyn hyn.

“Mae lot o ddiddordeb a dyfarnwyr gwrywaidd addawol yng ngogledd Cymru ar hyn ar hyn o bryd” meddai.

Gwella safon pel droed

“Gan amlaf, rhieni a rheolwyr sy’n gorfod dyfarnu gemau – petai’r bobl hyn yn cwblhau cyrsiau dyfarnu, byddai safon y bêl droed yn codi,” dywedodd.

Mae’n pwysleisio nad oes rhaid gallu chwarae pêl droed i ystyried dyfarnu, dim ond bod yn “gymharol ffit.” Dywedodd hefyd ei fod yn “bres poced” i bobl ifanc.

Fe fydd y cwrs yn cael ei gynnal yng Nghlwb Llafur Cyffordd Llandudno yn Llandudno, nos Lun Chwefror 8 am 7 o’r gloch.