Ar ôl buddugoliaeth ysgubol o 45 pwynt i 20 yn erbyn yr Harlequins y prynhawn yma, mae Gleision Caerdydd wedi cymhwyso i chwarae yng nghystadleuaeth Cwpan Amlin.

Seren y gêm oedd Ben Blair, a gyfrannodd 20 pwynt gyda chais, cic gosb a chwe throsiad. Llwyddodd i drosi pob un o geisiau’r Gleision.

Roedd y Gleision yn gwybod bod ganddyn nhw gyfle da i aros yng nghystadleuaeth ail gyfle Ewrop, ond ychydig a oedd wedi mentro rhagweld gêm mor ddramatig yn Twickenham.

Y Quins a oedd ar y blaen am ran helaeth o’r hanner cyntaf, gan sgorio’u cais cyntaf 70 eiliad ar ôl dechrau’r gêm.

Sgoriodd Gareth Thomas y cais cyntaf i’r Gleision, gyda Blair yn trosi ar ôl 15 munud, a phum munud yn ddiweddarach, cafwyd cais gwych gan Blair a lwyddodd hefyd i’w drosi.

Yn fuan ar ôl cais gan yr Harlequins wedi 24 munud, gan y Gleision yr oedd y meddiant, ac wedi cais a throsiad arall, y nhw fu ar y blaen am weddill y gêm.

Wedi pumed cais gan y Gleision yn gynnar yn yr ail hanner gan Jamie Roberts a’i drosi gan Blair, roedd yr ymwelwyr 15 pwynt ar y blaen, ac wedi chweched cais yn fuan wedyn dechreuodd cefnogwyr yr Harlequins adael y cae.

Llun: Gareth Thomas yn cael ei daclo yn ystod y gêm Cwpan Heineken yn Twickenham Stoop (Rebecca Naden/PA Wire)