Byddai llywodraeth Dorïaidd yn fodlon ystyried codi Treth ar Werth er mwyn lleihau dyled wladol Prydain, yn ôl ysgrifennydd busnes yr wrthblaid, Kenneth Clarke.
Aeth Treth ar Werth yn ôl i 17.5% ddechrau’r flwyddyn ar ôl gostyngiad dros dro i 15% dros y flwyddyn ddiwethaf fel rhan o becyn gan y Canghellor Alistair Darling i geisio symbylu’r economi yn ystod y dirwasgiad.
Roedd dyfalu eisoes wedi bod y gallai llywodraeth Dorïaidd, a hithau wedi ymrwymo i dorri’r ddyled wladol uchaf erioed o £178 biliwn, godi Treth ar Werth eto i 20%.
Dywedodd Kenneth Clarke y byddai canghellor yr wrthblaid, George Osborne, yn sicr o edrych ar Dreth ar Wrth wrth iddo ystyried y gwahanol ddewisiadau ar gyfer cael llyfrau’r wlad mewn trefn.
“Allwch chi ddim diystyru unrhyw ddewisiadau,” meddai Mr Clarke, a fu’n ganghellor ei hun rhwng 1993 ac 1997.
Rhybuddiodd ei blaid hefyd i beidio â thorri gormod ar wario cyhoeddus er mwyn lleihau’r ddyled yn y gyllideb frys y mae’r Torïaid wedi ei haddo o fewn 50 diwrnod i ennill grym.
“Does dim budd mewn ceisio ennill clod trwy gynnig toriadau mawr sy’n mynd i gael canlyniadau trychinebus,” meddai.
Llun: Kenneth Clarke, ysgrifennydd busnes yr wrthblaid