Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi arestio dyn a dynes mewn cysylltiad â diflaniad babi wyth mis oed.

Cafwyd hyd i’r bachgen bach yn fyw ac iach mewn eglwys gadeiriol yn Iwerddon brynhawn Gwener ar ôl iddo gael ei gymryd o gartref ei warcheidwad cyfreithiol yn Swydd Nottingham y diwrnod cynt.

Roedd heddlu Iwerddon wedi bod yn chwilio am gwpl a gafodd eu gweld yn gadael yr eglwys yn Carlow yn ne-ddwyrain y wlad.

Bellach mae dyn 25 oed a dynes 22 oed yn cael eu cadw yn y ddalfa gan Heddlu’r Gogledd, ac mae’r bachgen bach yng ngofal gwasanaeth iechyd Iwerddon ar hyn o bryd.

Cadarnhaodd heddlu Iwerddon i’r bachgen bach gael ei ddarganfod yn eglwys gadeiriol Carlow, a bod nodyn gyda’i enw a’i ddyddiad geni wedi cael ei adael gydag ef.

Mae disgwyl y bydd yn ôl gyda’i warcheidwaid cyfreithiol yn ystod y dyddiau nesaf.

Y gred yw bod y cwpl wedi teithio mewn llong o Iwerddon i Gaergybi ddoe.