Mae disgwyl i gynllun arbrofol sy’n galluogi rhieni i ddarganfod a oes gan unigolion hanes o gam-drin plant yn rhywiol gael ei ehangu ledled Prydain.

Trwy’r rhaglen hon, mae modd i riant holi’r heddlu a yw unrhyw un sydd mewn cysylltiad rheolaidd â phlant wedi ei ddedfrydu am droseddau o’r fath.

Caiff y rhaglen ei hadnabod fel Cyfraith Sarah, yn dilyn herwgipio a llofruddio’r ferch fach 8 oed Sarah Payne 10 mlynedd yn ôl.
Ar ôl ymgyrchu diflino gan fam Sarah, mae’r cynllun peilot wedi bod ar waith mewn pedair ardal.

Yn ôl yr Ysgrifennydd Cartref Alan Johnson, mae’r peilot wedi bod yn llwyddiannus iawn hyd yma.

“Mae datblygu’r cynllun yn gam pwysig ymlaen yn ein gallu i warchod plant rhag troseddwyr rhywiol,” meddai.

“Mae’r canlyniadau cynnar yn galonogol iawn ac mae’r peilot wedi rhoi amddiffyniad allweddol i blant a allai fod mewn perygl fel arall.

“Rydym yn dal wrthi’n asesu’r canlyniadau ac yn siarad gyda’r heddlu ac elusennau plant cyn gwneud penderfyniad terfynol yn fuan ar ehangu’r cynllun ledled Prydain.”

Wrth groesawu’r newydd, meddai Sara Payne, mam Sarah:

“Ar hyd y blynyddoedd maith o ymgyrchu am hawliau rhieni i gadw’u plant yn ddiogel rhag pedoffiliaid, dyma’r datblygiad pwysicaf hyd yma.”