Bydd tystiolaeth ddamniol yn dangos fod y Llywodraeth wedi cael cyngor clir fod rhyfel Irac yn anghyfreithlon yn cael ei ddatgelu yn ymchwiliad Chilcot yr wythnos yma – cyn i’r cyn-brif Weinidog Tony Blair ei hun roi tystiolaeth ddydd Gwener.
Mae disgwyl i Syr Michael Wood, prif ymgynghorydd cyfreithiol y Swyddfa Dramor ar y pryd, ddatgelu ei fod yn credu bod y rhyfel yn anghyfreithlon heb ail benderfyniad gan y Cenhedloedd Unedig.
Bydd Elizabeth Wilmshurst, cyfreithiwr arall o’r Swyddfa Dramor a ymddiswyddodd mewn protest yn erbyn y rhyfel, hefyd yn dweud wrth yr ymchwiliad nad “un llef yn yr anialwch” oedd hi wrth fynegi amheuon am gyfreithlondeb gweithredu milwrol.
Mae disgwyl iddi ddweud bod y twrnai cyffredinol, yr Arglwydd Goldsmith, wedi cael gwybod am yr amheuon hyn ddyddiau cyn yr ymosodiadau ar Baghdad.
Yn ôl papur newydd yr Independent on Sunday, mae ymchwiliad Chilcot eisoes wedi cael y dystiolaeth yma ar bapur ond nad yw wedi ei gyhoeddi eto.
Bydd yr Arglwydd Goldsmith yn cael ei holi yn yr ymchwiliad ddydd Iau, ddiwrnod cyn ymddangosiad y cyn-brif Weinidog yng Nghanolfan Gynadleddau’r Frenhines Elizabeth yr Ail yn Llundain.