Mae Heddlu Gwent yn chwilio am ddau glaf a wnaeth ddianc o Ysbyty Llanarth Court brynhawn ddoe.

Wrth apelio am wybodaeth am Nicholas Richmond a Paul Turner, rhybuddia’r heddlu y gall y ddau fod yn beryglus i’r cyhoedd.

Caiff Nicholas Richmond (ar y dde yn y llun) ei ddisgrifio fel dyn croenwyn 21 oed, 5 troedfedd 11 modfedd o daldra, gyda gwallt brown byr a llygaid brown, a Paul Turner (ar y chwith) fel dyn croenwyn 31 oed, 6 troedfedd o daldral, gyda llygaid glas a gwallt byr pigog golau.

Mae gan Paul datŵ â’r enw ‘Kyle’ ar ei fraich dde, tatŵ o ddiafol Tasmania ar ran uchaf ei fraich a thatŵ ac enw rhywun ar ei wddw.

Mae’r heddlu’n gofyn i bwy bynnag sy’n eu gweld eu ffonio ar unwaith ar 01633 838111.

Mae Ysbyty Llanarth Court, rhwng y Fenni a Rhaglan, yn ganolfan ddiogel sy’n darparu gwasanaethau iechyd meddwl i gleifion gan gynnwys rhai sy’n cael eu cadw o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.