Mae Osama Bin Laden, y dyn sy’n cael ei ystyried fel arweinydd y grŵp terfysgol Al Qaida, wedi cyhoeddi neges yn hawlio cyfrifoldeb am yr ymgais i ffrwydro bom ar awyren ger Detroit ddydd Nadolig.

Yn y neges sydd wedi cale ei darlledu ar y sianel newyddion Al-Jazeera heddiw, rhybuddiodd Bin Laden y bydd rhagor o ymosodiadau tebyg.

Ynddi, dywed wrth Arlywydd America, Barack Obama, na fydd heddwch i America onibai y bydd diogelwch i Balesteiniaid.

Disgrifiodd ymgais Umar Farouk Abdulmutallab i ffrwydro’r bom ar yr awyren fel ‘cadarnhad’ o ymosodiadau blaenorol, gan gynnwys ymosodiadau Medi 11.

Bydd ymosodiadau pellach os bydd America’n dal i gefnogi Israel, meddai.

Nid yw’n bosibl cadarnhau i sicrwydd mai llais Bin Laden sydd ar y tâp, ond mae’n swnio’n debyg i recordiadau o’r blaen sy’n cael eu priodoli iddo.

Llun: Osama Bin Laden