Fe fydd y dechnoleg ddiweddara’n cael ei defnyddio i dynnu sylw at waith un o artistiaid traddodiadol pwysica’ Cymru.

Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth yn mynd i ddechrau blog ar y We i roi gwybod am y gwaith o gatalogio a digideiddio casgliad o luniau ac archifau’r arlunydd, Kyffin Williams.

Yn ogystal â gwaith yr arlunydd tirluniau a phobol o Ynys Môn, mae’r casgliad yn cynnwys llythyrau, dyddiaduron a ffotograffau.

Fe gafodd ei adael i’r Llyfrgell ar ôl marwolaeth Syr Kyffin Williams yn 2006 ac, yn ogystal â rhoi gwybod am y broses, fe fydd y blog newydd yn tynnu sylw at eitemau diddorol wrth iddyn nhw ddod i’r amlwg.

Yn ôl y Llyfrgell, fe fydd ymchwilwyr a myfyrwyr – ac unrhyw un sydd â diddordeb – yn gallu dysgu mwy am fywyd a gwaith yr arlunydd.

‘Cyfrifoldeb – a phleser’

Fe ddywedodd Iwan Dafis, y llyfrgellydd cynorthwyol sy’n gweithio ar gatalogio’r darnau celf ei fod eisoes wedi cofnodi 1800 o eitemau.

“Mae’r blog yn galluogi pobol i weld y broses ac mae’n gam newydd i’r Llyfrgell,” meddai. “Drwy’r blog, rydan ni’n tynnu sylw at be rydyn ni’n ei wneud, at waith Kyffin Williams ac yn dangos ein gwerthfawrogiad ni o’i waith” meddai.

“Rydw i’n hoff iawn o waith Kyffin … dydi hyn ddim yn teimlo fel gwaith a dweud y gwir – mae’n rhaid i mi binsio fy hun weithiau,” meddai. “Mae’r catalogio’n dipyn o gyfrifoldeb – ond yn bleser.”

Ar ôl gorffen y gwaith, fe fydd hi’n bosib i bobol o bob rhan o’r byd fynd ar y We i weld peth o’r gweithiau.

Cyfeiriad y blog yw: http://blogkyffin.blogspot.com