Fe ddaeth tîm achub o Ffrainc o hyd i ddyn 23 oed yn fyw yn y rwbel yn Haiti – a hynny, er bod yr ymdrechion swyddogol i chwilio am ragor o oroeswyr wedi dod i ben.
Roedd wedi bod yn gaeth yng ngweddillion siop am 11 diwrnod ers y daeargryn a drawodd yr ynys ar Ionawr 12.
Ddoe fe gyhoeddodd Llywodraeth Haiti bod y chwilio bwriadol am bobol yn yr adfeilion yn dod i ben a’r sylw’n troi fwy fwy at ofalu am y rhai sydd ar ôl.
“Dyw bywyd ddim yn dod i ben pan fydd llywodraeth yn dweud hynny,” meddai arweinydd y tîm Ffrengig. “Mae rhywfaint o obaith o ddod o hyd i ragor o bobol ond fe fydd angen lwc a chymorth Duw.”
Angladd
Erbyn hyn, mae tua 112,000 o gyrff wedi eu claddu gan yr awdurdodau, ond dyw’r ffigwr ddim yn cynnwys y rhai sydd wedi cael eu claddu gan deulu a ffrindiau.
Roedd tua 2,000 o bobol wedi casglu ynghanol y brifddinas, Port-au-Prince, ar gyfer angladd Archesgob yr ynys. Fe fu’n rhaid ei gynnal mewn parc ger yr Eglwys Gadeiriol sydd wedi ei difrodi’n ddrwg.
Mae’r ymgyrch deledu i godi arian – y Telethon, Hope for Haiti – eisoes wedi casglu £36 miliwn ac mae sengl newydd a CD o’r perfformiadau ar frig siartiau gwerthiant i-Tunes.
Llun: Mam a phlentyn – yr ymdrechion yn canolbwyntio ar y rhai sydd wedi goroesi