Roedd y Llywodraeth yn iawn i godi lefel y rhybudd am derfysgaeth, meddai’r Arglwydd Carlile o Aberriw.
Cyn-AS Maldwyn, Alex Carlile, yw’r arbenigwr annibynnol sy’n cadw llygad ar gyfreithiau gwrthderfysgaeth ac fe ddywedodd ei bod yn iawn tynnu sylw’r cyhoedd a gofyn iddyn nhw fod yn wyliadwrus.
Yn ôl papur y Sunday Telegraph, bygythiad gan hunan-fomwyr o ferched yw un o’r rhesymau pam fod lefel y rhybudd wedi ei godi i ‘Ddifrifol’ – yr ail lefel ucha’ posib.
Mae’r Swyddfa Gartref wedi gwrthod cadarnhau na gwadu’r stori sy’n dweud bod merched yn cael eu hyfforddi gan y terfysgwyr i gario bomiau – merched sydd heb fod yn edrych yn Arabaidd ac sydd heb record o ymwneud â therfysgaeth.
Mae gan rai o’r papurau Sul eraill ddamcaniaethau gwahanol am y bygythiad, ond dyw’r Llywodraeth ddim wedi rhoi rheswm penodol.
‘Dim gwahaniaeth’
Fe gyhoeddwyd ddoe bod y lefel diogelwch yn codi ond, yn ôl yr Ysgrifennydd Cartref, Alan Johnson, ddylai hynny ddim gwneud gwahaniaeth i’r ffordd yr oedd teithwyr yn cael eu trin mewn llefydd fel meysydd awyr.
Y prif bwrpas, meddai, oedd tynnu sylw swyddogion diogelwch a’r heddlu ond mae yna gais hefyd i aelodau o’r cyhoedd fod yn wyliadwrus.
Mae’r Ceidwadwyr wedi beirniadu’r diffyg gwybodaeth, gan ddweud nad yw pobol yn gwybod beth i chwilio amdano.
Llun: Yr Ysgrifennydd Cartref, Alan Johnson