Fydd tystiolaeth dyngedfennol ynglŷn â’r penderfyniad i fynd i Ryfel yn Irac ddim ar gael i’r cyhoedd am 70 mlynedd.

Mae papur y Mail on Sunday yn dweud bod gwaharddiad yn rhwystro neb rhag gweld tystiolaeth feddygol am farwolaeth yr arbenigwr arfau o Gymru, David Kelly – y dyn a oedd wedi cyhuddo’r Llywodraeth o orliwio’r achos yn erbyn Irac.

Mae’r wybodaeth yn cynnwys yr adroddiad post mortem a lluniau sy’n dangos sut y bu farw.

Roedd hynny ychydig ddyddiau ar ôl iddi ddod yn amlwg ei fod wedi siarad gyda gohebydd y BBC, Andrew Gilligan, gan awgrymu bod dogfen yn cefnogi’r rhyfel wedi ei hystumio.

Fydd cofnodion ysgrifenedig am ei farwolaeth ddim ar gael am 30 mlynedd chwaith ac mae’r AS o ymgyrchwr hawliau sifil, Norman Baker, yn dweud bod y cyfan yn “syfrdanol”.

‘Lladd ei hun’

Fe benderfynodd Ymchwiliad Hutton i farwolaeth David Kelly bod y gwyddonydd – a oedd yn gyn-archwiliwr arfau i’r Cenhedloedd Unedig – wedi lladd ei hun trwy dorri ei arddwrn.

Ers y dechrau, mae doctoriaid amlwg wedi codi amheuon mawr am hynny ac, ym mis Rhagfyr eleni, fe ddechreuodd chwech ohonyn nhw gymryd camau cyfreithiol i geisio cael cwest o’r newydd.

Hutton

Yn achos David Kelly, roedd yr Ymchwiliad wedi cymryd lle cwest arferol i’w farwolaeth a’r Arglwydd Hutton ei hun, Cadeirydd yr Ymchwiliad, sydd wedi gosod y gwaharddiad ar ollwng y wybodaeth i’r cyhoedd.

Meddai Norman Baker: “Mae’n syfrdanol mai dyma’r tro cynta’ i ni glywed am orchymyn yr Arglwydd Hutton ac yn fwy syfrdanol fyth ei fod wedi penderfynu cuddio hyn.”

Yn ôl yr Adran Gyfiawnder, mater i’r Arglwydd Hutton oedd y gorchymyn a doedd gyda nhw ddim llais yn y mater.

Cefndir

Roedd David Kelly wedi ei eni yn y Rhondda yn 1944 ac fe fu farw 59 o flynyddoedd wedyn mewn coedwig ger ei gartre’ yn Swydd Rhydychen.

Roedd hynny ychydig ddyddiau ar ôl iddi ddod i’r amlwg mai ef oedd wedi rhoi gwybodaeth gyfrinachol i Andrew Gilligan, gohebydd y BBC, yn awgrymu bod y Llywodraeth yn gorliwio tystiolaeth am arfau yn Irac – “sexed up” oedd y term.

Fe fu’n rhaid iddo ymddangos gerbron pwyllgor seneddol ac fe ddaeth dan bwysau mawr gan y wasg a’r cyfryngau eraill.

Ond mae nifer o ddoctoriaid wedi codi amheuon mawr am yr esboniad i’w farwolaeth. Maen nhw’n dweud na fyddai torri ei arddwrn yn y ffordd a ddisgrifiwyd yn yr Ymchwiliad wedi bod yn ddigon ac y byddai’n hynod anarferol beth bynnag.

Llun: Norman Baker – y cuddio yn “syfrdanol”