Fe lwyddodd y Scarlets i gadw rhyw fath o freuddwyd Ewropeaidd yn fwy trwy ennill lle yng Nghwpan Her Amlin.

Wrth guro Brive o 20-17 yn y Cwpan Heineken yn Ffrainc neithiwr, fe sgorion nhw ddau gais ac roedd yr ail yn gwbl allweddol.

Maen nhw’n mynd trwodd i’r gystadleuaeth ail gyfle oherwydd eu bod wedi sgorio un cais yn fwy nag Ulster yn yr Heineken.

Gan Damien Welch a Morgan Stoddart y daeth y ceisiau hynny ar ôl i Brive fynd 10-0 ar y blaen. Ond gyda’r maswr Stephen Jones yn trosi’r ddau ac yn cicio dwy gôl gosb, roedd yn ddigon i’r tîm ifanc guro’r Ffrancod am yr ail dro.

Roedd Brive wedi dod â’r sgôr yn gyfartal ar 17-17 cyn i Jones gael y triphwynt tyngedfennol ar ôl 63 munud. Gyda’r rheiny, fe groesodd yntau gyfanswm personol o 800 pwynt yn y Cwpan.

‘Grêt’

“Mae’n grêt i bawb ein bod ni’n dal i fod yn Ewrop,” meddai wedyn. “Doedd y gêm ddim yn bert ar adegau ond fe wnaethon ni ddal ati a dangos lot o gymeriad. Roedd hi’n ymdrech dda gan sgwad ifanc.”

Roedd capten Brive yn canmol y sgwad ifanc hefyd. Yn ôl cyn wythwr y Scarlets eu hunain, Alix Popham, roedd gan ei hen dîm garfan dda o chwaraewyr yn dod trwodd.

Llun: Stephen Jones