Camgymeriad gan Dorus de Vries a gollodd ddau bwynt i Abertawe yn Stadiwm y Riverside.

Roedd yr Elyrch ar y blaen o 1-0 yn yr ail hanner yn erbyn Middlesborough pan drawodd cyn-chwaraewr Caerdydd, Willo Flood, groesiad diniwed o’r asgell.

Ond, rhywsut, fe lwyddodd honno i dwyllo de Vries a gorffen yng nghefn y rhwyd. Er iddo gael ei law i’r bêl, doedd yr Iseldirwr ddim yn gallu ei chadw o’r rhwyd.

Cyn hynny, roedd Abertawe wedi sgorio gôl ardderchog, gyda Darren Pratley’n cadw’r bêl rhag tri o chwaraewyr Middlesborough, yn dod o hyd i rediad cyflym o ganol cae gan Joe Allen ac yntau’n rhoi Gorka Pintado trwodd i sgorio.

Fe allai’r ddau dîm fod wedi cipio’r triphwynt gyda Garry Monk yn mynd yn agos i Gaerdydd ond fe gafodd Boro sawl cyfle hefyd.

Hwn oedd ymweliad cynta’ Abertawe gyda stadiwm newydd y Riverside.

Llun: Dorus de Vries