Fe lwyddodd Caerdydd i ennill eu ffordd i bumed rownd Cwpan yr FA gyda buddugoliaeth mewn gêm ryfedd yn erbyn Leicester City.

Ar adegau yng nghanol y ddau hanner, roedd hi’n ymddangos mai’r tîm o Gaerlŷr oedd gryfa’ ac yn fwya’ tebyg o ennill ac, ar un adeg, roedden nhw ar y blaen o 2-1.

Yn y diwedd, fe sgoriodd Caerdydd ddwy gôl yn y pum munud ola’ i ennill o 4-2 … y ddwy yn dod o fewn munud i’w gilydd.

Y gêm … o gôl i gôl

Caerdydd oedd wedi dechrau orau gyda gôl gan ddyn y funud, Jay Bothroyd, gyda chefnogwyr yr Adar Glas yn falch nad oedd wedi ystyried y cynnig i ymuno ag Abertawe.

Ar ôl hynny, fe gollodd Caerdydd eu ffordd … fe ddaeth Leicester City’n gyfartal ac wedyn mynd ar y blaen.

Gôl lwcus a ddaeth â Chaerdydd yn ôl iddi tua hanner y ffordd trwy’r ail hanner, gyda chroesiad gan Peter Whittingham yn mynd tros ben y gôl-geidwad heb fawr mwy na chyffyrddiad gan neb arall.

Honno oedd 17eg gôl yr asgellwr y tymor yma ac roedd ganddo ran yn y gôl a roddodd Gaerdydd ar y blaen … croesiad da i’r blwch, Ross McCormack yn ergydio’n wan ond y ?l yn dod allan i Chris Burke ac yntau’n rhwydo.

Cyn i neb gael eu gwynt, roedd Ross McCormack ei hun wedi sgorio a gem dynn yn ymddangos fel buddugoliaeth hawdd i’r Adar Glas.

Llun: Ross McCormach … y sgoriwr ola tros Gaerdydd