Mae’r Leicester Tigers wedi apelio yn erbyn buddugoliaeth y Gweilch yn eu herbyn yng Nghwpan Heineken.

Maen nhw wedi gwneud cwyn swyddogol gan honni bod y Gweilch wedi defnyddio chwaraewr yn ormod.

Ar un adeg, roedd hi’n ymddangos bod yna ddryswch tros eilio a bod y canolwr, Scott Parker, ar y cae yn eilydd, yn ogystal â’r chwaraewr gwreiddiol.

Fe lwyddodd y Gweilch i ennill yn y diwedd o 17-12 ond roedden nhw wedi dod dan bwysau ofnadwy tua diwedd y gêm.

Fe fyddai gêm gyfartal wedi bod yn ddigon i’r Teigrod fynd trwodd yn lle’r Gweilch.