Fe fydd Sinn Fein yn galw uwchgynhadledd frys gyda Phrif Weinidog Gogledd Iwerddon er mwyn ceisio achub datganoli yn y dalaith.
Fe benderfynodd cyfarfod o bwyllgor rheoli’r blaid, yr Ard Chomhairle, y byddai’r Dirprwy Brif Weinidog, Martin McGuinness o Sinn Fein, yn mynnu cynnal trafodaethau argyfwng gyda Peter Robinson o Unoliaethwyr y DUP.
Os na fydd y rheiny’n llwyddo, fe fydd Sinn Fein yn tynnu allan o’r Llywodraeth Bartneriaeth ac yn dymchwel y Cynulliad yn Stormont.
“Nid mater o heip gan Sinn Fein yw hyn,” meddai Gerry Adams wedi cyfarfod yr Ard Chomhairle yn Nulyn.
“Nid gêm o boker yw hon. Os nad yw’r sefydliadau’n gweithio, os nad ydyn nhw’n cyflawni pethau, yna maen nhw’n mynd yn ddibwynt ac yn amhosib eu cynnal.”
Trosglwyddo grym
Mae Sinn Fein yn mynnu bod y DUP, prif blaid y Llywodraeth, yn llusgo’u traed ac yn ceisio atal y broses o drosglwyddo grym tros yr heddlu o Lundain i Belffast.
Roedd datganoli maes cyfiawnder a’r heddlu’n un o amodau Cytundeb St Andrews yn 2006 ond mae’r Unoliaethwyr yn mynnu bod aros am yr amser iawn cyn gwneud hynny.
Roedd y ddwy blaid wedi bod yn trafod yn galed yr wythnos ddiwetha’. Tra bod Peter Robinson yn hawlio’u bod nhw’n nesu at gytundeb, roedd Sinn Fein yn cyhuddo’r DUP o geisio tanseilio cytundeb.
Maen nhw wedi bod yn ceisio newid y drefn o reoli Gorymdeithiau’r Urdd Oren yn y dalaith – ond ystryw yw hynny, meddai Sinn Fein.
Llywodraethau
Roedd Gerry Adams hefyd yn galw ar i lywodraethau Prydain ac Iwerddon osod dyddiad terfyn ar gyfer trosglwyddo pwerau tros yr heddlu a chyfiawnder.
Y ddwy lywodraeth oedd yn gwarantu Cytundeb St Andrews a Chytundeb cynharach Dydd Gwener y Groglith.
Mae Sinn Fein yn mynnu bod y rheiny’n cael eu gweithredu’n llawn neu fe fydd Sinn Fein yn gadael y Llywodraeth.
“Os nad yw hynny’n bosibl,” meddai Gerry Adams. “yna fyddai’r un cynrychiolydd cyhoeddus neu blaid wleidyddol eisiau bod yn rhan o rywbeth sy’n ddim ond charade.”
Llun: Gerry Adams yn cynnal cynhadledd i’r wasg wedi cyfarfod yr Ard Chomhairle (Gwifren PA)