Fe fu’n rhaid i’r Gleision wneud newidiadau munud ola’ i’w tîm ar gyfer y gêm yn erbyn yr Harlequins yng Nghwpan Heineken fory.
Fe fydd eu chwaraewr mwya’ profiadol, cyn-gapten Cymru Gareth Thomas, yn dod i mewn ar yr asgell yn lle Leigh Halfpenny, sydd wedi tynnu cyhyr yn ei glun.
Doedd Thomas ddim yn y sgwad gwreiddiol ond mae’r un mor gyfforddus ar yr asgell neu yn y canol.
Ar y fainc y mae’r newid arall gyda Dai Flanagan yn dod i mewn yn eilydd o faswr yn lle Sam Norton-Knight. Does dim esboniad wedi’i roi am y newid hwnnw.
Does gan y Gleision ddim cyfle i fynd trwodd i wyth ola’ Cwpan Heineken – ar ôl i Northampton gael pwynt bonws yn erbyn Munster i’w rhoi nhw yn rhy bell ar y blaen ymhlith y collwyr gorau.
Cwpan Amlin
Ond fe fydd rhanbarth y brifddinas eisiau gwneud yn siŵr o le yn y gystadleuaeth ail gyfle, Cwpan Her Amlin.
Fe fydd tri thîm o’r Cwpan Heineken yn chwarae yn rowndiau terfynol honno, yn erbyn enillwyr y pum grŵp sydd yno eisoes. Fe fydd enillydd y Cwpan yn cael lle awtomatig yn yr Heineken y tymor nesa’.
Llun: Gareth Thomas – i mewn (Gwifren PA)