Mae ymgyrchwyr tros les plant wedi gofyn i’r Twrnai Cyffredinol gynyddu’r gosb ar ddau frawd o Doncaster a gafwyd yn euog o boenydio ac ymosod ar ddau fachgen .
Fe ddywedodd prif weithredwr yr elusen Kidscape, y dylai’r ddau ddioddefwr – a oedd yn 9 ac 11 oed ar y pryd – allu cael y sicrwydd bod yr ymosodwyr dan glo am o leia’ ddegawd.
Fe gafodd y ddau ymosodwr 10 ac 11 oed eu dedfrydu i gyfnod amhenodol o gaethiwed … gyda’r posibilrwydd o gael eu rhyddhau ar ôl pum mlynedd.
Fe ddywedodd Michelle Elliott, sy’n seicolegydd, ei bod hi ymhlith nifer o fudiadau lles plant sy’n bwriadu cysylltu gyda’r Twrnai Cyffredinol, y Fonesig Scotland.
Er nad oedd unrhyw sicrwydd y byddai’r ddau frawd yn rhydd ar ôl pum mlynedd, fe fyddai’r posibilrwydd yn achosi pryder i’r ddau fachgen arall, a nhwthau erbyn hynny yn eu harddegau.
Roedd hi’n rhybuddio y gallai’r ddau frawd fod yn beryglus am flynyddoedd i ddod, er bod gwell gobaith iddyn nhw, dan glo allan o ofal eu rhieni.
‘Magwraeth wenwynig’
Roedd Llys y Goron Sheffield wedi clywed am “fagwraeth wenwynig” y ddau frawd, gyda thrais, pornograffi, alcohol a chyffuriau’n rhan o’u bywydau.
Fe ddywedodd sylfaenydd elusen arall, The Phoenix Survivors, wrth bapur newydd y Sun ei bid hithau wedi anfon apêl at y Twrnai Cyffredinol.
Roedd Shy Keenan hefyd yn annog yr heddlu i erlyn rhieni’r ddau frawd – ddoe fe ddywedodd Heddlu Swydd Efrog eu bod yn ystyried gwneud hynny
Llun: Hen bwll glo yn Edlington, hen ardal ddiwydiannol