Fe lwyddodd y Gweilch i fynd trwodd i rowndiau olaf y Cwpan Heineken ar ôl curo Leicester Tigers o 17-12.

Ond fe fu’n rhaid iddyn nhw amddiffyn am eu bywydau yn y munudau ola’ wrth i’r Teigrod bwyso a phwyso ar lein y Gweilch.

Ar un adeg, fe lwyddon nhw i groesi’r llinell ond fe gollodd Aaron Major ei afael ar y bêl ac, ar ôl sgrym i’r Gweilch, fe ildiodd y Teigrod gic gosb.

Dim ond gêm gyfartal oedd ei angen ar Gaerlŷr ac fe fyddai cais heb ei drosi wedi bod yn ddigon. Roedd rhaid i’r Gweilch ennill.

Yn y diwedd, wrth gael 20 pwynt a gorffen un y tu ôl i Clermont Auvergne, fe wnaeth y Gweilch yn siŵr o fynd trwodd i’r wyth ola’ yn un o’r ddau gollwr gorau.

Ciciau Biggar, cais gan Bowe

Ciciau gan y maswr Dan Biggar a chais gan yr asgellwr Tommy Bowe oedd y gwahaniaeth – yr asgellwr yn sgorio ym mhum munud ola’r hanner cyntaf ar ôl cic gelfydd gan y canolwr, James Hook.

Cyn hynny, ac wedyn, fe ddaeth y Gweilch o dan bwysau oddi wrth y Teigrod ond roedden nhwthau hefyd yn bygwth yn ysbeidiol.

Yn yr ail hanner, dim ond dwy gic gosb – un yr un oedd yna – gyda Biggar yn trosi pedair.

Llun: Dan Biggar – pedair cic gosb