Tynnu mwy o arian i mewn i Gymru i gefnogi ymchwil mewn prifysgolion yw un o’r ffyrdd o ddatblygu’r economi a chreu busnesau a gwaith.
Dyna oedd neges y Dirprwy Weinidog ar gyfer Gwyddoniaeth, Arloesi a Sgiliau yn ystod ei hymweliad cynta’ ag un o brifysgolion mwya’ newydd y wlad.
Roedd Lesley Griffiths, AC Wrecsam, ar ei thir ei hun wrth ymweld â Phrifysgol Glyndŵr yn y dref ac fe ddywedodd y byddai’n gweithio gydag amrywiaeth o gyrff eraill i geisio denu arian.
“Bydd gwaith ar brosiectau ymchwil o safon uchel yn ein helpu i ddatblygu, cadw a denu myfyrwyr ymchwil o safon uchel,” meddai.
“Bydd hynny’n gwneud yn siŵr bod gyda ni sylfaen o bobol ifanc gyda sgiliau uchel a fydd yn gallu chwarae rôl ganolog yn ffyniant Cymru yn y dyfodol.”
Roedd denu arian o’r sector preifat i gefnogi ymchwil hefyd yn flaenoriaeth, meddai Lesley Griffiths.
Mae gan Brifysgol Glyndŵr bortffolio ymchwil gwerth £4.8 miliwn syn cynnwys datblygu deunyddiau ffoto-foltaïg ar gyfer yr 21fed ganrif.