Fe fydd saith o ddiffoddwyr tân o Gymru yn cychwyn ar eu ffordd yn ôl o Haiti wrth i’r ymdrech achub ddod i ben yno.
Fe gyhoeddodd llywodraeth yr ynys eu bod yn rhoi’r gorau i’r gobaith o ffeindio rhagor o bobol yn fyw yn rwbel y daeargryn ac y byddai’r holl ymdrechion yn awr yn canolbwyntio ar y bobol sydd ar ôl.
Yn ôl y Cenhedloedd Unedig roedd 132 o bobol wedi eu canfod yn fyw yn yr 11 diwrnod ers i rannau helaeth o’r ynys – gan gynnwys y brifddinas Port-au-Prince – gael eu chwalu.
Erbyn hyn, mae 110,000 o gyrff wedi eu cofnodi’n swyddogol ond mae degau o filoedd yn rhagor o bobol ar goll.
Anawsterau
Mae’r anhawster i gario nwyddau bwyd o amgylch yr ynys yn parhau – yn ôl y Cenhedloedd Unedig, roedd lluniau lloeren o’r gofod yn dangos bod 691 o rwystrau ar draws y tair milltir o ffordd rhwng Port-au-Prince a thref fechan Carrefour.
Roedd y rheiny, medden nhw, yn cynnwys gweddillion tai a oedd wedi dymchwel a rwbel arall.
O’r ochr arall, mae presenoldeb llong ysbyty’r Unol Daleithiau, y Comfort, wedi gwneud gwahaniaeth, gan drin 932 o gleifion yn y diwrnod cynta’.
Ymhlith y problemau newydd, mae ofnau am afiechydon ymhlith y goroeswyr a chwyddiant sy’n codi pris bwyd ymhell y tu hwnt i gyrraedd y bobol yng ngwlad dlota’r Caribî.
Fe gyhoeddodd Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru y bydden nhw’n cynnal cynhadledd i’r wasg i groesawu’r diffoddwyr yn ôl.
Llun: Gweithiwr achub yn ei ddagrau wedi helpu i achub hen wraig o’r rwbel ddydd Mawrth (ACT-Gwifren PA)