Mae’r Gweilch wedi cadw’u gobeithion yn fyw wrth geisio cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan Heineken.

Fe lwyddon nhw i orffen hanner cynta’ eu gêm yn erbyn Leicester Tigers ar y blaen o 14-9.

Cais gan yr asgellwr Tommy Bowe oedd y gwahaniaeth, ar ôl iddo ddilyn cic gelfydd gan y canolwr, James Hook.

Roedd hynny ym munudau ola’r hanner ar ôl i’r Gweilch ddod dan lawer o bwysau oddi wrth dîm pwerus Caerlŷr.

Cyn hynny, ciciau oedd pob sgôr – tair cic gosb i faswr y Gweilch, Dan Biggar, dwy i faswr y Teigrod, Toby Flood, ac un gôl adlam i Staunton.

Erbyn hynny, fodd bynnag, roedd Clermont Auvergne wedi cael pwynt bonws yn Viadana yn yr Eidal i sicrhau mai nhw fyddai’n ennill y grŵp.

Fe fyddai’n rhaid i’r Gweilch wedyn aros ar y blaen er mwyn cipio lle ymhlith y collwyr gorau.

Llun: Tommy Bowe, sgoriwr y cais