Mae Cymru yn arwain y byd o ran gofal am bobol ag awtistiaeth, meddai gweinidog yn y Llywodraeth.
Fe gyhoeddodd Gwenda Thomas y bydd £1.7 miliwn yn cael ei roi yn ystod y tair blynedd nesaf i wella gwasanaethau a darpariaeth i oedolion sydd â’r cyflwr.
“Gallwn fod yn falch o’r ffaith ein bod yn gwneud rhywbeth arall eto o flaen gweddill y byd,” meddai’r Dirprwy Weinidog tros Wasanaethau Cymdeithasol.
“Fe fydd yr arian hwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau’r rhai sy’n diodde’ o awtistiaeth trwy wella’r dulliau o adnabod y cyflwr, trwy gynnig mwy o gyfleoedd gwaith ac ehangu amrywiaeth y gwasanaethau sydd ar gael yn gyson trwy Gymru.”
Y cynlluniau
Mae’r cynlluniau, a gafodd eu creu gan weithgor arbennig, yn cynnwys:
• Creu rhwydwaith i Gymru gyfan er mwyn adnabod y cyflwr mewn oedolion a chynnig cyngor ynghynt ac wedyn.
• Cynnig rhagor o fonitro rhanbarthol a chefnogaeth i rai â Syndrom Asperger (sydd ar sbectrwm awtistiaeth), gyda chynhadledd a hyfforddiant i weithwyr yn y maes, a gwefan wybodaeth i oedolion sydd ag awtistiaeth ac i’w gofalwyr.
• Arwain ymgyrch gyhoeddusrwydd ymhlith cyflogwyr a busnesau er mwyn creu mwy o gyfleoedd gwaith a phenodi Llysgennad i ymgyrchu yn y maes.
• Casglu gwybodaeth am ddulliau o gynllunio adeiladau i siwtio pobol ag awtistiaeth er mwyn creu canllaw i benseiri.
Cefndir
Fe gafodd Cynllun Gweithredu Strategol Cymru ar gyfer Awtistiaeth ei lawnsio ym mis Ebrill 2008 – y cynta’ o’i fath yn y byd.
O dan y Strategaeth y crëwyd y gweithgor – Grŵp Tasg a Gorffen – yn cynnwys cynrychiolwyr o awdurdodau lleol, y Gwasanaeth Iechyd a chymdeithasau gwirfoddol yn y maes.
Yr amcangyfri yw bod 30,000 o bobol yng Nghymru’n cael eu heffeithio gan awtistiaeth yng Nghymru – naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol.
Llun: Un o luniau ymgyrchu’r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol