Fe fydd amddiffynnwr Abertawe, Alan Tate, fwy neu lai’n mynd adre’ heddiw, wrth i’r Elyrch wynebu Middlesborough yn y Bencampwriaeth.

Un o ardal Middlesborough yw Tate ond mae’n hyderus y gall Abertawe ennill yn y Riverside.

Mae rheolwr Abertawe, Paulo Sousa, hefyd yn ffyddiog er ei fod yn dweud y byddai’n well bythefnos yn ôl.

Dyna pryd yr oedd y gêm i fod i gael ei chwarae ond fe gafodd ei gohirio oherwydd y tywydd – ar y pryd, roedd pedwar o brif chwaraewyr Middlesborough wedi brifo a’r blaenwr Leroy Lita wedi’i wahardd.

Pwysau

Gobaith Paulo Sousa yw bod Middlesborough a’u rheolwr dan bwysau ar ôl cyfres o ganlyniadau gwael ers i’r Albanwr ddod i’r swydd.

“Rhaid i ni geisio gwneud pethau’n galetach fyth iddyn nhw,” meddai Sousa, ond gan rybuddio eu bod yn dîm cryf.

Wrth i Abertawe godi i’r pedwerydd safle yn y Bencampwriaeth, mae Middlesborough wedi bod yn mynd i’r cyfeiriad arall.

Ond, roedd gan Tate rybudd – dim ond un gêm sydd ei hangen i newid tymor, meddai wrth wefan yr Elyrch.

Llun: Alan Tate, yn f4l i ogledd-ddwyrain Lloegr