Fydd chwaraewr mwya’ newydd Leicester City ddim ar gael ar gyfer eu gêm y prynhawn yma yn erbyn Caerdydd.

Er bod y clwb o Gaerlŷr wedi prynu amddiffynnwr rhyngwladol Peru, Noberto Solano, doedd y gwaith papur ddim wedi’i glirio mewn pryd.

Mae’n chwaraewr profiadol iawn ar ôl cael cyfnodau gyda chlybiau mawr fel Newcastle ac Aston Villa cyn mynd yn ôl i chwarae yn ei wlad ei hun.

Rae o obaith

Ond roedd rheolwr Caerdydd, Dave Jones, yn gobeithio y byddai’r chwaraewr canol cae, Gavin Rae, yn ddigon iach i ddod yn ôl i’r Adar Glas.

Mae’r ddau chwaraewr ifanc, Aaron Wildig ac Adam Matthews, wedi’u hanafu sy’n golygu bod angen Rae i chwarae wrth ochr Joe Ledley yn y canol.

Roedd Rae wedi bod yn diodde’ gydag anaf, ond fe ddywedodd Jones y byddai penderfyniad amdano’n cael ei wneud ar y funud olaf.

Mae Caerdydd un pwynt a dau le o flaen Leicester City yn y Bencampwriaeth ac mae’r gêm yng Nghaerdydd yn rhan o frwydr fawr heddiw rhwng Cymru a’r ddinas yn Nwyrain y Midlands.

Y tîm rygbi, Leicester Tigers, sy’n sefyll rhwng y Gweilch a lle yn rowndiau terfynol y Cwpan Heineken wrth iddyn nhw ymweld â Stadiwm Liberty.

Abertawe’n ‘embaras’ i Bothroyd

Fe fydd Jay Bothroyd gyda Chaerdydd hefyd – er gwaetha’ ymdrech ddigywilydd Abertawe i geisio ei arwyddo.

Roedd y cynnig yn “embaras” meddai Bothroyd ei hun – ac yntau wedi cael math o enwogrwydd ar ôl gwawdio cefnogwyr Abertawe yn y gorffennol.

Fe bwysleisiodd Dave Jones hefyd nad oedd eisiau gwerthu blaenwr o dalent Bothroyd ond bod straeon yn codi trwy’r amser am chwaraewyr yn gadael – roedd yna sïon di-sail wedi bod am Peter Whittingham a Michael Chopra, meddai.

Llun: Noberto Solano yn lliwiau Peru (jcswayne-Trwydded GNU)