Mae Llywodraeth Gogledd Iwerddon yn y fantol wrth i arweinwyr y brif blaid weriniaethol, Sinn Fein, gyfarfod yn Nulyn.
Dyw hi ddim yn amhosib y byddan nhw’n cyfarwyddo’u cynrychiolwyr yn y Gogledd i adael y Llywodraeth bartneriaeth yno gan achosi etholiadau.
Mae Sinn Fein yn dweud bod trafodaethau rhyngddyn nhw a’r brif blaid Unoliaethol, y DUP, wedi methu – nhw yw’r ddwy blaid sy’n rhannu grym ar hyn o bryd.
Grym tros yr Heddlu
Achos y drafferth yw rheolaeth tro wasanaeth heddlu newydd Gogledd Iwerddon – yn ôl Sinn Fein, mae’r DUP yn llusgo’u traed ac yn ceisio arafu neu atal y broses o drosglwyddo pwerau o Lundain i Belffast.
Roedd datganoli grym tros yr heddlu yn rhan o Gytundeb St Andrew a arweiniodd at ailsefydlu’r Cynulliad yn Stormont ac at rannu grym rhwng Sinn Fein a’r Unoliaethwyr.
Mae hawliau iaith i’r Wyddeleg hefyd yn rhan o’r cytundeb ac mae Sinn Fein yn cyhuddo’r DUP o lesteirio hynny hefyd.
Trafodaethau
Roedd y ddwy blaid wedi bod yn cyfarfod yn ystod yr wythnos ond, yn ôl Llywydd Sinn Fein, Gerry Adams, roedd y trafodaethau wedi methu erbyn nos Fercher.
Mae’n cyhuddo’r DUP o geisio tanseilio’r cytundeb trwy fynnu newidiadau yn y dull o reoli Gorymdeithiau’r Urdd Oren, sy’n dathlu buddugoliaeth y Protestaniaid tros Babyddion Iwerddon yn 1690.
Yn ôl Gerry Adams, roedd y DUP yn dawnsio i bibau’r Urdd Oren, a fu’n ddylanwadol iawn yng ngwleidyddiaeth y Gogledd yn ystod y ganrif ddiwetha’.
“Sori, bobol – dyw hi ddim yn gweithio fel yna erbyn hyn,” meddai. “Mae’r dyddiau hynny wedi mynd. Mae’r wladwriaeth Oren wedi mynd.”
Er hynny, mae arweinydd y DUP, Peter Robinson – sy’n dal i gymryd rhan yn y trafodaethau er iddo ymddiswyddo dros dro – yn credu bod y trafodaethau’n symud yn eu blaenau.
Fe gyhuddodd yntau Sinn Fein o geisio difrodi’r broses.
Y posbiliadau
Fe allai pwyllgor gwaith Sinn Fein – yr Ard Chomhairle – benderfynu tynnu allan o’r Llywodraeth Bartneriaeth, neu fe allen nhw alw ar lywodraethau Prydain ac Iwerddon i ymyrryd.
Pe bai, Martin McGuinnes, Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon, yn cael y gorchymyn i ymddiswyddo, fe fyddai hynny’n arwain at etholiadau, ond fe allai hefyd olygu ei bod yn amhosib i ddatganoli barhau.
Yn ôl papur newydd, The Irish Independent, mae polau piniwn yn dangos bod mwyafrif cymunedau Gogledd Iwerddon a’r gwasanaeth heddlu eu hunain o blaid symud grym tros heddlu a chyfiawnder o Lundain i Belffast.
Pleidiau Unoliaethol yn closio?
Heddiw, roedd gwasanaeth newyddion RTE yn Iwerddon Rydd yn awgrymu bod y ddwy blaid unoliaethol yn bwriadu uno.
Yn ystod y blynyddoedd diwetha’, mae’r DUP fwy eithafol wedi disodli’r UUP mwy cymedrol, ar ôl brwydrau chwerw rhyngddyn nhw. Fe fyddai uno’n ei gwneud hi’n amhosib i Sinn Fein arwain llywodraeth yn y Gogledd.
Llun: Gerry Adams, Llywydd Sinn Fein – “Mae’r wladwriaeth Oren wedi mynd”.