Fe fydd y Ceidwadwyr yn ystyried ail ddechrau defnyddio llongau carchar, yn ôl swyddogion y blaid.

Er nad yw’r syniad wedi ei gynnwys ym maniffesto’r Torïaid, mae’n ymddangos y bydd rhaid iddyn nhw ystyried y cynllun, er mwyn cadw at addewid arall i roi stop ar ryddhau carcharorion cyn pryd.

Mae’r arweinydd David Cameron wedi addo y bydd yn dileu’r cynllun sydd wedi caniatáu i 75,000 o garcharorion gael eu gollwng 18 diwrnod cyn diwedd eu dedfrydau.

Fe gafodd y cynllun ei gyflwyno gan y Llywodraeth Lafur yn 2007 er mwyn llacio’r pwysau ar lefydd mewn carchardai. Dyw carcharorion sy’n euog o droseddau trais ddim yn rhan o’r cynllun.

Y llong ola’

Fe gafodd y llong garchar ola’ ei gwerthu yn 2005 ar ôl treulio wyth mlynedd yn cadw carcharorion oddi ar lannau môr Dorset.

Ar y pryd, roedd Prif Archwiliwr y Carchardai wedi condemnio’r defnydd o’r llong, HMP Weare, oherwydd diffyg cyfle i garcharorion gael awyr iach ac ymarfer corff.

Bwriad gwreiddiol y Ceidwadwyr oedd gwerthu rhai o’r hen garchardai yng nghanol dinasoedd er mwyn codi arian i adeiladu carchardai newydd … ond mae’r cwymp ym mhris eiddo’n gwneud hynny’n llai deniadol erbyn hyn.

Llun: Y llong garchar ola’ – HMP Weare (Gwifren PA)