Mae nifer y milwyr Prydeinig sydd wedi marw yn Afghanistan wedi codi i 250 – bron cymaint ag yn Rhyfel y Malvinas.

Fe gafodd aelod o Gatrawd y Rifles ei ladd mewn ffrwydrad yn nhalaith Helmand ddoe ond dyw ei enw ddim wedi’i gyhoeddi eto.

Fel llawer o’r gweddill sydd wedi marw ers i’r fyddin fynd yno ym mis Tachwedd 2001, fe gafodd ei ladd gan fom min-y-ffordd.

Mae nifer y colledion wedi codi’n sylweddol ers i filwyr Prydain fynd i Helmand, un o’r taleithiau lle mae gwrthryfelwyr ar eu cryfa’. Dim ond pump oedd wedi eu lladd cyn hynny.

Y llynedd oedd y flwyddyn waetha’ eto gyda mwy na dwbl y marwolaethau yn unrhyw flwyddyn arall.

Gwaethygu

Ac fe allai pethau waethygu eto – mae pennaeth y fyddin, Syr David Richards, eisoes wedi rhybuddio y bydd eleni’n “flwyddyn galed” cyn i nifer y marwolaethau ddechrau gostwng yn 2011.

Ond dyw colledion y milwyr yn ddim wrth ochr y marwolaethau ymhlith pobol gyffredin Afghanistan. Yn ôl amcangyfri’r Cenhedloedd Unedig, fe gafodd 2,412 o sifiliaid eu lladd yno’r llynedd.

Yr ystadegau

Dyma nifer y milwyr Prydeinig sydd wedi marw yn Afghanistan yn ystod y blynyddoedd diwetha’:

2006 39
2007 42
2008 51
2009 108

Llun: Rhai o’r milwyr Prydeinig diwetha’ i farw yn Afghanistan (Gwifren PA)