Mae mudiadau tegwch a hawliau wedi canmol cyngor sir am greu gwasanaeth i roi gwybod am droseddau casineb.

Cyngor Bro Morgannwg yw un o’r awdurdodau cynta’ yng Nghymru i lawnsio cynllun o’r fath, sy’n cynnwys llinell gymorth a gwasanaeth ar y We.

Roedd mudiadau gwrth-hiliaeth yn y seremoni lawnsio, ynghyd â chynrychiolydd o Stonewall Cymru, y mudiad hawliau hoyw.

Fe fydd modd i bobol sy’n dioddef o droseddau casineb, neu sy’n dystion iddyn nhw, yn gallu ffonio’r cyngor yn gyfrinachol neu lenwi ffurflen ar y We.

‘Llawer rhagor i’w wneud’

“Er bod mwy o bobol yn rhoi gwybod am droseddau casineb, mae yna lawer rhagor i’w wneud,” meddai Arweinydd y Cyngor, Gordon Kemp.

Mae troseddau casineb yn cynnwys trais corfforol neu eiriol ar sail hil, lliw, cefndir ethnig, cenedl, rhyw, crefydd, rhywioldeb ac anabledd.

“Mae’r digwyddiad lleia’n gallu datblygu’n rhywbeth mwy, felly mae angen rhoi ystyriaeth o ddifri i bob adroddiad am droseddau casineb,” meddai Alicja Zalesinski o’r mudiad Tegwch Hiliol yn Gyntaf – Race Equality First.

Y rhif i roi gwybod am droseddau casineb ym Mro Morgannwg yw 01446 700111.

Llun: Y seremoni i lawnsio’r gwasanaeth newydd