Mae busnesau lleol yn cael cam gan yr awdurdodau cynllunio, meddai Aelod Cynulliad, sy’n galw am adolygiad llawn o’r holl system arwyddion twristiaeth.

Tra bod mentrau bychain Cymreig yn cael eu gorfodi i gael gwared ar arwyddion brown i hysbysebu eu busnesau, mae cwmni mawr fel McDonalds yn cael rhwydd hynt i godi rhai, meddai Angela Burns.

Mae AC Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro wedi galw ar y Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones, i ymyrryd yn rhinwedd ei swydd yn Weinidog Economaidd gyda chyfrifoldeb am dwristiaeth a ffyrdd.

Mae’r sefyllfa yn “wallgo”, meddai.

McDonalds

Mae Angela Burns yn honni bod McDonalds yn cael caniatâd i osod arwydd brown sawl canllath o’u bwyty yn Hwlffordd – ond bod atyniadau mwy preifat fel Parc Slebech yn cael eu gwrthod.

“Dw i’n gwybod am nifer o atyniadau lleol sydd wedi’ methu cael hawl cynllunio gan y Cyngor i adnewyddu eu harwyddion neu sydd wedi gorfod tynnu eu harwyddion i lawr,” meddai yn y Senedd.

“Mae busnesau lleol a llwyddiannus Cymreig yn cael eu cyfyngu i arwyddion bychan neu ddim arwyddion, ond mae McDonalds yn cael arwydd brown ar gylchfan Hwlffordd,” meddai.

“I lawer o fusnesau sy’n dibynnu ar dwristiaeth – mae’n flaenoriaeth hanfodol bwysig.”

Ymateb y Llywodraeth

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Adran Drafnidiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru wrth Golwg360:

“R’yn ni’n ymwybodol fod anghysondebau posibl yn y polisi arwyddion twristiaeth ar hyn o bryd ac mae adolygiad yn cael ei gynnal o’r arwyddion ar y prif ffyrdd.

“Ein hamcan yw archwilio arwyddion presennol a datblygu polisi sy’n cadw cydbwysedd rhwng ein hymrwymiad i hyrwyddo datblygu economaidd gyda chynnal rhwydwaith ffyrdd diogel.”

Fe ddywedodd Cyngor Sir Benfro eu bod yn ymgynghori gyda Chroeso Cymru, y cyngor bro a’r cynghorydd lleol cyn penderfynu rhoi hawl i godi arwydd.

Llun: Parc Slebech – ‘ddim yn cael hawl’ (Llun o wefan y busnes)