Roedd yna nodau o obaith ynghanol trychineb Haiti – un ar yr ynys ei hun a’r llall ar deledu ar draws y byd.
Fe gafodd dyn 21 oed ei achub o rwbel ei ystafell wely ddeng niwrnod cyfan ar ôl y daeargryn a drawodd yr ynys yn y Caribî.
Roedd Emmanuel Buso wedi goroesi trwy yfed ei ddŵr ei hun a gorweddian yn hanner-ymwybodol cyn cael ei dynnu o’r rwbel gan dîm achub o Israel.
Doedd arweinydd y tîm erioed wedi gweld neb yn byw cyhyd ar ôl trychineb o’r fath ond roedd yn sbardun iddyn nhw ddal ati i chwilio, meddai.
Sêr mewn Telethon
Tra oedd hynny’n digwydd, roedd sêr ffilm a phop yn cynnal apêl ddwyawr ar deledu ar draws y byd i godi arian i helpu Haiti.
Fe fu cantorion fel Beyonce a Madonna’n perfformio ac roedd gan aelodau U2, Bono a The Edge – David Howell Evans sydd o dras Gymreig – gân newydd am y trychineb.
Roedd actorion fel Julia Roberts, Jack Nicholson a Mel Gibson ymhlith y rhai oedd yn ateb y ffôn wrth i un o’r trefnwyr, George Clooney, bwysleisio fod ar bobol Haiti “angen ein cymorth ni”.
“Mae angen iddyn nhw wybod nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain,” meddai. “Mae angen iddyn nhw wybod ein bod ni’n becso.”
Fe orffennodd y Telethon gyda pherfformiad gan y canwr Wyclif Jean sy’n dod o Haiti. “Gadewch i ni ail-adeiladu Haiti,” meddai. “Gadewch i ni ddangos sut yr ’yn ni’n gwneud pethau yn ein gwlad ni.”
Pryder am y plant
Yn Haiti ei hun, mae’r gwaith o godi gwersylloedd i gannoedd o filoedd o bobol wedi dechrau ar gyrion y brifddinas Port-au-Prince ond mae rhwystredigaeth fawr o hyd tros y diffyg cymorth.
Fe rybuddiodd mudiadau cymorth eu bod nhw’n poeni y bydd rhai o blant yr ynys yn cael eu cipio a’u gwerthu. Yn ôl llefarydd ar ran adain addysg y Cenhedloedd Unedig, fe fydd hynny’n aml yn digwydd yn sgil trychinebau.
Roedd yn gwybod, meddai, am 15 o blant oedd eisoes wedi diflannu o ysbytai.
Llun: Bono a Rhianna’n canu yn y Telethon