Mae’r heddlu’n ystyried dod ag achos llys yn erbyn rhieni’r ddau frawd o Doncaster a gafwyd yn euog o gam-drin dau blentyn arall mewn ffordd dreisgar a dychrynllyd.

Wedi i’r brodyr gael eu dedfrydu i’w cadw’n gaeth am gyfnod amhenodol, fe ddywedodd uwch-swyddog o heddlu Swydd Efrog eu bod yn ystyried erlyn y rhieni.

“Mae’n rhywbeth y byddwn ni’n ei drafod gyda phartneriaid yn sgil yr hyn a ddywedwyd yn y llys,” meddai.

‘Gwenwynig’

Roedd y barnwr yn Llys y Goron Sheffield wedi clywed fod bwyd cartre’r ddau frawd yn “wenwynig”. Dim ond 11 a 10 oedden nhw adeg y drosedd ond roedden nhw’n cael gwylio ffilmiau trais a phornograffi ac roedd yr hyna’n cael smygu canabis ac yfed alcohol.

Roedd y ddau wedi ymosod ar fechgyn 9 ac 11 oed ym mhentref Edlington ger Doncaster, gan eu tagu, eu taro gyda briciau, eu gorfodi i fwyta danadl poethion ac i gam-drin ei gilydd yn rhywiol.

Fe allai’r brodyr gael eu rhyddhau ar ôl pum mlynedd, ond dim ond os yw arbenigwyr yn credu nad ydyn nhw’n beryg i’r cyhoedd.

Dyna’r math o ddedfryd a gafodd llofruddion y bachgen bach Jamie Bulger yn Lerpwl hefyd ac maen nhw bellach wedi dechrau ar fywyd newydd.

‘Lladd tro nesaf’

Roedd aelodau o deuluoedd y ddau ddioddefwr yn anfodlon. Mae un yn cael ei ddyfynnu ym mhapur y Daily Mirror yn dweud na ddylai’r brodyr gael eu rhyddhau o gwbl: “Y tro nesa’ mi fyddan nhw’n lladd2.

Fe fydd rhagor o bwysau hefyd ar y gwasanaethau cymdeithasol ac asiantaethau eraill yn ardal Doncaster ar ôl i adroddiad ddangos y gallai’r ymosodiad fod wedi cael ei atal.

Dim ond un gweithiwr cymdeithasol sydd wedi cael ei ddisgyblu hyd yn hyn ond fe ddywedodd Cyfarwyddwr dros dro’r Adran Wasanaethau Cymdeithasol y byddai ymchwiliad annibynnol yn ystyried camau pellach.

Llun: Llys y Goron Sheffield