Y Gweilch yw’r unig ranbarth o Gymru sydd â gobaith i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan Heineken.
Er bod Northampton wedi colli neithiwr o 12-9 yn erbyn Munster, roedd yr un pwynt bonws a gawson nhw yn ddigon i’w gwneud yn amhosib – bron – i’r Gleision a’r Scarlets fynd trwodd i’r wyth ola’.
Fe fyddai’n rhaid i’r tîm o’r Eidal Viadana ennill eu gêm gynta’ yn y gystadleuaeth trwy guro’r cewri o Ffrainc Clermont Auvergne cyn y byddai gan y naill ranbarth neu’r llall obaith o’i gwneud hi.
Fe fydd y Gweilch yn chwilio am berfformiad anferth wrth iddyn nhw wynebu’r Leicester Tigers o Gaerlŷr yn Stadiwm Liberty’r prynhawn yma.
Y farn gyffredinol yw y bydd angen ennill y frwydr rhwng y blaenwyr er mwyn rhoi cyfle i’r olwyr ddisgleirio, gyda James Hook a Shane Williams yn ôl yn y tîm.
Fe gafodd y Gweilch gêm gyfartal 32-32 yn erbyn y Teigrod yng Nghaerlŷr yn gynt y tymor hwn ac, oni bai am gamgymeriadau tua’r diwedd, fe fydden nhw wedi ennill.
Llun: Shane Williams i mewn i’r Gweilch – fe sgoriodd yn erbyn y Teigrod y tro diwetha’