Fe gafodd lefelau diogelwch yng ngwledydd Prydain eu codi i ‘ddifrifol’ ar ôl rhybuddion gan un o adrannau’r gwasanaeth diogelwch MI5.
Ond fe bwysleisiodd yr Ysgrifennydd Cartref, Alan Johnson, nad oedd unrhyw wybodaeth bod ymosodiad ar fin digwydd.
Mae’r lefelau newydd yn golygu bod ymosodiad terfysgol yn ‘debygol iawn’ ar fe gafodd ei godi cyn y gynhadledd wrth-derfysgol yn Llundain yr wythnos nesa’.
Yemen
Does dim cadarnhad bod cysylltiad gyda’r ymgais i ffrwydro awyren uwchben Detroit ddydd Nadolig, pan oedd hunan fomiwr wedi teithio o Yemen trwy feysydd awyr yn Nigeria ac Amsterdam.
Ddydd Mercher, fe gyhoeddodd y Prif Weinidog, Gordon Brown, ei fod yn gwahardd teithiau awyren uniongyrchol rhwng gwledydd Prydain a Yemen ac y byddai rhagor o bobol sydd dan amheuaeth o fod yn derfysgwr yn cael eu hatal rhag hedfan.
“Mae’r newid yma’n golygu bod ymosodiad terfysgol yn debygol iawn ond fe ddylwn bwysleisio nad oes gwybodaeth i awgrymu bod ymosodiad ar fin digwydd,” meddai Alan Johnson.
Mwy o fesurau
Fe ddywedodd bod mwy o fesurau i ddiogelu awyrennau eisoes wedi digwydd ers ymosodiad Detroit.
Fe apeliodd hefyd ar i bobol fod yn wyliadwrus ac i roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau amheus.
Dim ond un lefel ddiogelwch sy’n uwch na ‘difrifol’, sef ‘argyfyngus’. Mae honno wedi cael ei defnyddio ddwywaith – yn 2006 pan oedd bygythiad i awyrennau ac yn 2007 ar ôl ymosodiadau terfysgol yn Llundain.
Llun: Heddlu arfog yn Heathrow adeg argyfwng arall yn 2003